Llyfr Jeremeia 34:17
Am hynny fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD, Ni wrandawsoch arnaf fi, gan gyhoeddi rhyddid bob un i’w frawd, a phob un i’w gymydog: wele fi yn cyhoeddi i’ch erbyn, medd yr ARGLWYDD, ryddid i’r cleddyf, i’r haint, ac i’r newyn, ac mi a wnaf eich symud chwi i holl deyrnasoedd y ddaear. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Leviticus 26:34Yna y mwynhâ y tir ei Sabbathau yr holl ddyddiau y byddo yn ddiffaethwch, a chwithau a fyddwch yn nhir eich gelynion; yna y gorphwys y tir, ac y mwynhâ ei Sabbathau.
Deuteronomy 28:25Yr Arglwydd a wna i ti syrthio o flaen dy elynion: trwy un ffordd yr âi di yn eu herbyn hwynt, a thrwy saith o ffyrdd y ffoi o’u blaen hwynt: a thi a fyddi ar wasgar dros holl deyrnasoedd y ddaear.
Judges 1:6Ond Adoni-bezec a ffodd; a hwy a erlidiasant ar ei ol ef, ac a’i daliasant ef, ac a dorrasant fodiau ei ddwylaw ef a’i draed.
Jeremiah 21:7Ac wedi hynny, medd yr ARGLWYDD, y rhoddaf Sedeceia brenin Jwda, a’i weision, a’r bobl, a’r rhai a weddillir yn y ddinas hon, gan yr haint, gan y cleddyf, a chan y newyn, i law Nebuchodonosor brenin Babilon, ac i law eu gelynion, ac i law y rhai sydd yn ceisio eu heinioes: ac efe a’u tery hwynt â min y cleddyf; lu thosturia wrthynt, ac nid erbyd, ac ni chymer drugaredd. º
Jeremiah 29:17Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Wele fi yn anfon arnynt y cleddyf, a newyn, a haint, a mi a’u gwnaf hwynt fel y ffigys bryntion, y rhai ni ellir eu bwyta, rhag eu dryced. º