Llyfr Jeremeia 34:22
Wele, mi a orchmynnaf, medd yr ARGLWYDD, ac a wnaf iddynt droi yn ôl at y ddinas hon, a hwy a ryfelant yn ei herbyn hi, ac a’i goresgynnant hi, ac a’i llosgant hi â thân: ac mi a wnaf ddinas¬oedd Jwda yn anghyfannedd heb breswylydd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
2 Kings 24:2A’r ARGLWYDD a anfonodd yn ei erbyn ef dorfoedd o’r Caldeaid, a thor-foedd o’r Syriaid, a thorfoedd o’r Moab¬iaid, a thorfoedd o feibion Ammon, ac a’u hanfonodd hwynt yn erbyn Jwda i’w dinistrio hi, yn ôl gair yr ARGLWYDD, yr hwn a lefarasai efe trwy law ei weision y proffwydi. º
2 Chronicles 36:17Am hynny efe a ddygodd i fyny arnynt hwy frenin y Caldeaid, yr hwn a laddodd eu gwŷr ieuaninc hwy â’r cleddyf yn nhŷ eu cysegr, ac nid arbedodd na ŵr ieuanc na morwyn, na hen, na’r hwn oedd yn camu gan oedran: efe a’u rhoddodd hwynt oll yn ei law ef.
Isaiah 24:12Yn y ddinas y gadawyd anghyfanheddrwydd, ag anrhaith hefyd y dryllir y porth. º
Isaiah 45:1FEL hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth ei eneiniog, wrth Cyrus, yr hwn yr ymeflais i yn ei ddeheulaw,,i i ddarostwng cenhedloedd o’i flaen ef: a mi a ddatodaf lwynau brenhinoedd; i agoryd y dorau o’i flaen ef; a’r pyrth ni chaeir: º
Jeremiah 2:15Y llewod ieuainc a ruasant arno, ac a leisiasant; a’i dir ef a osodasant yn anrhaith, a’i ddinasoedd a losgwyd heb drigiannydd.