Llyfr Jeremeia 35:14
Geiriau Jonadab mab Rechab, y rhai a orchmynnodd efe i’w feibion, nad yfent win, a gyflawnwyd: canys nid yfant hwy win hyd y dydd hwn; ond hwy a wrandawant ar orchymyn eu tad: a minnau a ddywedais wrthych chwi, gan godi yn fore, a llefaru, ond ni wrandawsoch arnaf. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Nehemiah 9:26Eto hwy a anufuddhasant, ac a wrthryfelasant yn dy erbyn, taflasant hefyd dy gyfraith o’r tu ôl i’w cefn, a’th broffwydi a laddasant, y rhai a dystiolaethasent wrthynt am ddychwelyd am ac a gablasant yn ddirfawr.
Proverbs 1:20Doethineb sydd yn gweiddi oddi allan; y mae hi yn adrodd ei lleferydd yn yr heolydd:
Isaiah 50:2Paham, pan ddeuthum, nad oedd neb i’m derbyn? pan elwais, nad atebodd neb? Gan gwtogi a gwtogodd fy llaw, fel na allai ymwared? neu onid oes ynof north i achub? wele, a’m cerydd y sychaf y môr, gwneuthum yr afonydd yn ddiffeithwch: eu pysgod a ddrewant o eisiau dwfr, ac a fyddant feirw o syched. º
Jeremiah 7:24Eithr ni wrandawsant, ac ni ostyngasant eu clust, ond rhodiasant yn ôl cynghorion a childynrwydd eu calon ddrygionus, ac aethant yn ôl, ac nid ymlaen.
Jeremiah 25:3Er y drydedd flwyddyn ar ddeg i Joseia mab Amon brenin Jwda, hyd y dydd hwn, hortao yw y drydedd flwyddyn ar hugain, y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, ac mi a ddywedais wrthych, gan foregodi a llefaru, ond ni wrandawsoch. º
Jeremiah 29:19Am na wrandawsant ar fy ngeiriau, medd yr ARGLWYDD, y rhai a anfonais i atynt gyda’m gweision y proffwydi, gan gyfodi yn fore, a’u hanfon; ond ni wrandawech, medd yr ARGLWYDD. º