Llyfr Jeremeia 35:6
Ond hwy a ddywedasant, Nid yfwn ni ddim gwin: oherwydd Jonadab mab Rechab ein tad a roddodd i ni orchymyn, gan ddywedyd, Nac yfwch win, na chwy-chwi na’ch plant, yn dragywydd: º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 25:27A’r llangciau a gynnyddasant: ac Esau oedd wr yn medru hela, a gwr o’r maes, a Jacob oedd wr disyml, yn cyfanneddu mewn pebyll.
Exodus 20:12¶ Anrhydedda dy dad a’th fam; fel yr estynner dy ddyddiau ar y ddaear, yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti.
Leviticus 23:42Mewn bythod yr arhoswch saith niwrnod; pob prïodor yn Israel a drigant mewn bythod:
Judges 13:7Ond efe a ddywedodd wrthyf, Wele, ti a feichiogi, ac a esgori ar fab. Ac yn awr nac yf win na diod gadarn, ac na fwyta ddim aflan: canys Nasaread i DDUW fydd y bachgen, o’r groth hyd ddydd ei farwolaeth. º
2 Kings 10:15A phan aethai efe oddi yno, efe a gyfarfu a Jehonadab mab Rechab yn cyfarfod ag ef, ac a gyfarchodd well iddo, xxx ac a ddywedodd wrtho, A yw dy galon di yn uniawn, fel y mae fy nghalon i gyda’th galon di? A dywedodd Jehonadab, Ydyw. Od ydyw, eb efe, moes dy law. Rhoddodd yntau ei law, ac efe a barodd iddo ddyfod i fyny ato i’r cerbyd. º
1 Chronicles 2:55A thylwyth yr ysgrifenyddion, y rhai a breswylient yn Jabes; y Tirathiaid, y Simeathiaid, y Suchathiaid. Dyma y Ceniaid, y rhai a ddaethani o Hemath, tad tylwyth Rechab.