Llyfr Jeremeia 36:7
Fe allai y daw eu gweddi hwynt gerbron yr ARGLWYDD, ac y dychwelant bob un o’i ffordd ddrygionus: canys mawr yw y llid a’r digofaint a draethodd yf APGLWYDD yn erbyn y bobl hyn. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Deuteronomy 29:18Rhag bod yn eich mysg wr, neu wraig, neu deulu, neu lwyth, yr hwn y try ei galon heddyw oddi wrth yr Arglwydd ein Duw, i fyned i wasanaethu duwiau y cenhedloedd hyn; rhag bod yn eich mysg wreiddyn yn dwyn gwenwyn a wermod:
1 Kings 8:33Pan drawer dy bobl Israel o flaen y gelyn, am iddynt bechu yn dy erbyn di, os dychwelant atat ti, a chyfaddef dy enw, a gweddïo, ac ymbil a thi yn y tŷ hwn: º
2 Kings 22:17Am iddynt fy ngwrthod i, ac arogldarthu i dduwiau dieithr, i’m digio i a holl waith eu dwylo: am hynny yr ennyn fy llid yn erbyn y lle hwn, ac nis diffoddir ef. º
2 Chronicles 34:21Ewch, ymofynnwch â’r ARGLWYDD drosof fi, a thros y gweddill yn Israel ac yn Jwda, am eiriau y llyfr a gafwyd: canys mawr yw llid yr ARGLWYDD a dywalltodd efe arnom ni, oblegid na chadwodd ein tadau ni air yr ARGLWYDD, gan wneuthur yn ôl yr hyn oll sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn.
Jeremiah 4:4Ymenwaedwch i’r ARGLWYDD, a rhoddwch heibio ddienwaediad eich calon, chwi gwŷr Jwda, a thrigolion Jerwsalem: rhag i’m digofaint ddyfod allan fel tân, a llosgi fel na byddo diffoddydd, oherwydd drygioni eich amcanion.
Jeremiah 19:15Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel; Wele fi yn dwyn ar y ddinas hon, ac ar ei holl drefydd, yr holl ddrygau a leferais i’w herbyn, am galedu ohonynt eu gwarrau, rhag gwrando fy ngeiriau.