Llyfr Jeremeia 37:15
Am hynny y tywysogion a ddigiasant wrth Jeremeia, ac a’i trawsant, ac a’i rhoddasant yn y carchardy yn nhŷ Jonathan yr ysgrifennydd: oherwydd hwnnw a wnaethent hwy yn garchardy. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
16Pan ddaeth Jeremeia i’r daeardy, ac i’r cabanau, ac wedi i Jeremeia aros yno ddyddiau lawer; º
Cross References
2 Chronicles 16:10Yna y digiodd Asa wrth y gweledydd, ac a’i rhoddodd ef mewn carchardy; canys yr oedd efe yn ddicllon wrtho am y peth hyn. Ac Asa a orthrymodd rai o’r bobl y pryd hwnnw.
Jeremiah 20:1PAN glybu Pasur mab Immer yr offeiriad, yr hwn oedd yn ben-llywodraethwr yn nhŷ yr ARGLWYDD, i Jeremeia broffwydo y geiriau hyn; º
Jeremiah 26:16Yna y tywysogion, a’r holl bobl, a ddywedasant wrth yr offeiriaid a’r proffwydi, Ni haeddai y gŵr hwn farn marwolaeth: canys yn enw yr AR¬GLWYDD ein Duw y llefarodd efe wrthym. º
Jeremiah 37:4A Jeremeia oedd yn myned i mewn ac allan ymysg y bobl: canys ni roddasent hwy ef eto yn y carchardy. º
Jeremiah 38:6Yna hwy a gymerasant Jeremeia, ac a’i bwriasant ef i ddaeardy Malcheia mab Hammelech, yr hwn oedd yng nghyntedd y carchardy: a hwy a ollyngasant Jeremeia i waered wrth raffau. Ac nid oedd dwfr yn y daeardy, ond torn: felly Jeremeia a lynodd yn y dom. º
Jeremiah 39:15A gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Jeremeia, pan oedd efe wedi cau arno yng nghyntedd y carchar, gan ddywedyd, º