Llyfr Jeremeia 38:16
Felly y brenin Sedeceia a dyngodd wrth Jeremeia yn gyfrinachol, gan ddy¬wedyd, Fel mai byw yr ARGLWYDD, yr hwn a wnaeth i ni yr enaid hwn, ni roddaf fi di i farwolaeth, ac ni roddaf di yn llaw y gwŷr hyn sydd yn ceisio dy einioes. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Numbers 16:22A hwy a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a ddywedasant, O Dduw, Duw ysprydion pob cnawd, un dyn a bechodd, ac a ddigi di wrth yr holl gynnulleidfa?
Ecclesiastes 12:7Yna y dychwel y pridd i’r ddaear fel y bu, ac y dychwel yr ysbryd at DDUW, yr hwn a’i rhoes ef.
Isaiah 57:16Canys nid byth yr ymrysonaf, ac nid yn dragywydd y digiaf: oherwydd yr ysbryd a ballai o’m blaen i, a’r eneidiau a wneuthum i. º
Jeremiah 37:17Yna y brenin Sedeceia a anfonodd, ac a’i cymerodd ef allan: a’r brenin a ofynnodd iddo yn gyfrinachol yn ei dy ei hun, ac a ddywedodd, A oes gair oddi wrth yr ARGLWYDD? A dywedodd Jerem¬eia, Oes; canys tydi (eb efe) a roddir yn llaw brenin Babilon. º
Zechariah 12:1Baich gair yr ARGLWYDD i Israel, medd yr ARGLWYDD, yr hwn sydd yn estyn allan y nefoedd, ac yn sylfaenu y ddaear, ac yn llunio ysbryd dyn ynddo.
Hebrews 12:9Heblaw hynny, ni a gawsom dadau ein cnawd i’n ceryddu, ac a’u parchasom hwy: onid mwy o lawer y byddwn ddarostyngedig i Dad yr ysbrydoedd, a byw?