Llyfr Jeremeia 38:4
Yna y tywysogion a ddywedasant wrth y brenin, Rhodder, atolwg, y gŵr hwn i farwolaeth: oblegid fel hyn y mae efe yn gwanhau dwylo’r rhyfelwyr a adawyd yn y ddinas hon, a dwylo’r holl bobl, wrth ddywedyd wrthynt yn ôl y geiriau hyn: oherwydd nid yw y gŵr hwn yn ceisio llwyddiant i’r bobl hyn, ond niwed. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
1 Kings 18:17A phan welodd Ahab Eleias, Ahab a ddywedodd wrtho, Onid ti yw yr hwn sydd yn blino Israel? º
2 Chronicles 24:21A hwy a gydfwriadasant yn ei erbyn ef, ac a’i llabyddiasant ef â meini wrth orchymyn y brenin, yng nghyntedd tŷ yr ARGLWYDD.
Nehemiah 6:9Oblegid hwynt-hwy oll oedd yn ceisio ein hofni ni, gan ddywedyd, Eu dwylo hwy a laesant oddi wrth y gwaith, fel nas gwneir ef. Gan hynny cryfha yn awr, O DDUW, fy nwylo i.
Jeremiah 26:21A phan glywodd y brenin Jehoiacim, ifl’i holl gedyrn, a’r holl dywysogion, ei eiriau ef, y brenin a geisiodd ei ladd ef: ond pan glywodd Ureia, efe a ofnodd, ac a ffodd, ac a aeth i’r Aifft. º
Ezekiel 22:27Ei phenaethiaid oedd yn ei chanol fel bleiddiaid yn ysglyfaethu' ysglyfaeth, i dywallt gwaed, i ddifetha eneidiau, er elwa elw.