Llyfr Jeremeia 4:1
Israel, os dychweli, dychwel ataf fi, medd yr ARGLWYDD: hefyd os rhoi heibio dy ffieidd-dra oddi ger fy mron, yna ni’th symudir.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 35:2Yna Jacob a ddywedodd wrth ei deulu, ac wrth y rhai oll oedd gyd âg ef, Bwriwch ymaith y duwiau dïeithr sydd yn eich plith chwi, ac ymlanhêwch, a newidiwch eich dillad;
Joshua 24:14¶ Yn awr gan hynny ofnwch yr Arglwydd, a gwasanaethwch ef mewn perffeithrwydd a gwirionedd, a bwriwch ymaith y duwiau a wasanaethodd eich tadau o’r tu hwnt i’r afon, ac yn yr Aipht; a gwasanaethwch chwi yr Arglwydd.
1 Samuel 7:3A Samuel a lefarodd wrth holl dŷ Israel, gan ddywedyd, Os dychwelwch; chwi at yr ARGLWYDD â’ch holl galon, bwriwch ymaith y duwiau dieithr o’ch mysg, ac Astaroth, a pharatowch eich calon at yr ARGLWYDD, a gwasanaethwch ef yn unig; ac efe a’ch gwared chwi o law y Philistiaid.
2 Kings 23:24Y swynyddion hefyd, a’r dewiniaid, a’r delwau, a’r eilunod, a’r holl ffieidd-dra, y rhai a welwyd yng ngwlad Jwda, ac yn Jerwsalem, a dynnodd Joseia ymaith: fel y cyflawnai efe eiriau y gyfraith; y rhai oedd ysgrifenedig yn y llyfr a gafodd Hiloeia yr offeiriad yn nhŷ yr ARGLWYDD. º
2 Chronicles 33:8Ac ni chwanegaf symud troed Israel oddi ar y tir a ordeiniais i’ch tadau chwi; os gwyliant ar wneuthur yr hyn oll a orchmynnais iddynt, yn ôl yr holl gyfraith, a’r deddfau, a’r barnedigaethau, trwy law Moses.
Isaiah 31:6Dychwelwch at yr hwn y llwyr giliodd meibion Israel oddi wrtho. º