Llyfr Jeremeia 4:31
Canys clywais lef megis gwraig yn esgor, cyfyngder fel benyw yn esgor ar ei hetifedd cyntaf, llef merch Seion yn ochain, ac yn lledu ei dwylo, gan ddywedyd, Gwae fi yr awr hon! oblegid diffygiodd fy enaid gan leiddiaid.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 27:46Dywedodd Rebeccah hefyd wrth Isaac, Blinais ar fy einioes o herwydd merched Heth: os cymmer Jacob wraig o ferched Heth, fel y rhai hyn o ferched y wlad, i ba beth y chwennychwn fy einioes?
Psalms 120:5O am gyfeirio fy ffyrdd i gadw dy ddeddfau!
Isaiah 6:5Yna y dywedais, Gwae fi! canys darfu amdanaf; oherwydd gŵr halogedig ei wefusau ydwyf fi, ac ymysg pobl halogedig o wefusau yr ydwyf yn trigo: canys fy llygaid a welsant y brenin, ARGLWYDD y lluoedd.
Isaiah 21:3Am hynny y llanwyd fy llwynau & ddolur, gwewyr a’m daliasant fel gwewyr gwraig yn esgor; syrthiais wrth ei glywed, brawychais wrth ei weled. º
Isaiah 42:14Tewais er ys talm, distewais, ymateliais; llefaf fel gwraig yn esgor, difwynaf, a difethaf ar unwaith. º
Jeremiah 6:23Yn y bwa a’r waywffon yr ymaflant; creulon ydynt, ac ni chymerant drugaredd: eu llais a rua megis y môr, ac ar feirch y marchogant yn daclus, megis gwŷr i ryfel yn dy erbyn di, merch Seion.