Llyfr Jeremeia 40:15
Yna Johanan mab Carea a ddywedodd wrth Gedaleia ym Mispa yn gyfrinachol, gan ddywedyd. Gad i mi fyned, atolwg, a mi a laddaf Ismael mab Neth¬aneia, ac ni chaiff neb wybod: paham y lladdai efe di, fel y gwasgerid yr holl Iddewon y rhai a ymgasglasant atat ti, ac y darfyddai am y gweddill yn Jwda? º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
1 Samuel 24:4A gwŷr Dafydd a ddywedasant wrtho ef, Wele y dydd am yr hwn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyt, Wele fi yn rhoddi dy elyn yn dy law di, fel y gwnelych iddo megis y byddo da yn dy olwg. Yna Dafydd a gyfododd, ac a dorrodd gŵr y fantell oedd am Saul yn ddirgel. º
2 Samuel 18:3Ond y bobl a atebodd, Nid ei di allan: canys os gan ffoi y ffown ni, ni osodant hwy eu meddwl arnom ni; ac os bydd marw ein hanner ni, ni osodant eu meddwl arnom: ond yn awr yr ydwyt ti fel deng mil ohonom ni: yn awr gan hynny gwell yw i ti fod i’n cynorthwyo ni o’r ddinas. º
Job 31:31Oni ddywedodd dynion fy mhabell, O na chaem o’i gnawd ef! ni ddigonir ni.
Jeremiah 42:2Ac a ddywedasant wrth Jeremeia y proffwyd, Atolwg, gwrando ein deisyfiad ni, a gweddïa drosom ni ar yr ARGLWYDD dy DDUW, sef dros yr holl weddill hyn; (canys nyni a adawyd o lawer yn ychydig, fel y mae dy lygaid yn ein gweled ni;) º
John 11:50Nac yn ystyried, mai buddiol yw i ni, farw o un dyn dros y bobl, ac na ddifether yr holl genedl.