Llyfr Jeremeia 42:16
Yna y bydd i’r cleddyf, yr hwn yr ydych yn ei ofni, eich goddiwes chwi yno yn nhir yr Aifft; a’r newyn yr hwn yr ydych yn gofalu rhagddo, a’ch dilyn chwi yn yr Aifft; ac yno y byddwch feirw. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Deuteronomy 28:15¶ A bydd, oni wrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, gan gadw a gwneuthur ei holl orchymynion ef a’i ddeddfau, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddyw; y daw arnat yr holl felldithion hyn, ac y’th oddiweddant.
Deuteronomy 28:45A’r holl felldithion hyn a ddaw arnat, ac a’th erlidiant, ac a’th oddiweddant, hyd oni’th ddinystrier; am na wrandewaist ar lais yr Arglwydd dy Dduw, i gadw ei orchymynion a’i ddeddfau ef, y rhai a orchymynodd efe i ti.
Jeremiah 42:13Ond os dywedwch, Ni thrigwn ni yn y wlad hon, heb wrando ar lais yr ARGLWYDD eich Duw, º
Jeremiah 44:13Canys myfi a ymwelaf a thrigolion gwlad yr Aifft, fel yr ymwelais a Jerw¬salem, a chleddyf, a newyn, ac a haint: º
Ezekiel 11:8Y cleddyf a ofnasoch, a'r cledd yf a ddygaf arnoch, medd yr ARGLWYDD DDUW.
Zechariah 1:6Oni ddarfu er hynny i'm geiriau a'm deddfau, y rhai a orchmynnais wrth fy ngweision y proffwydi, oddiwes eich tadau? a hwy a ddychwelasant, ac a dywedasant, Megis y meddyliodd ARGLWYDD y lluoedd wneuthur i ni, yn ôl ein ffyrdd, ac yn ôl ein gweithredoedd ein hun, felly y gwnaeth efe â ni.