Llyfr Jeremeia 44:1
Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia, am yr holl Iddewon y rhai oedd yn trigo yng ngwlad yr Aifft, ac yn preswylio ym Migdol, ac yn Tapanhes, ac yn Noff, ac yng ngwlad Pathros, gan ddywedyd º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 10:14Pathrusim hefyd a Chasluhim, (o’r rhai y daeth Philistim,) a Chaphtorim.
Isaiah 11:11Bydd hefyd yn y dydd hwnnw, i’r Arglwydd fwrw eilwaith ei law i feddiannu gweddill ei bobl, y rhai a weddillir gan Asyria, a chan yr Aifft, a chan Pathros, a chan Ethiopia, a chan Elam, a chan Sinar, a chan Hamath, a chan ynysoedd y môr. º
Jeremiah 2:16Meibion Noff hefyd a Thahapanes a dorasant dy gorun di.
Jeremiah 42:15Am hynny, O gweddill Jwda, gwrandewch yn awr air yr ARGLWYDD Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel; Os chwi gan osod a osodwch eich wynebau i fyned i’r Aifft, ac a ewch i ymdeithio yno, º
Jeremiah 43:7Felly hwy a ddaethant i wlad yr Aifft: canys ni wrandawsant ar lais yr ARGLWYDD; fel hyn y daethant i Tapanhes. º
Jeremiah 46:14Mynegwch yn yr Aifft, cyhoeddwch ym Migdol, hysbyswch yn Noff, ac yn Tapanhes: dywedwch, Saf, a bydd barod, oblegid y cleddyf a ysa dy amgylchoedd. º