Llyfr Jeremeia 44:12
A mi a gymeraf weddill Jwda, y rhai a osodasant eu hwynebau i fyned i wlad yr Aifft i aros yno, a hwy a ddifethir oll; yng ngwlad yr Aifft y syrthiant: trwy y cleddyf a thrwy newyn y difethir hwynt: o fychan hyd fawr, trwy y cleddyf a: thrwy newyn y byddant feirw: a hwy;a fyddant yn felltith, ac yn syndod, ac yn rheg, ac yn warth. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Isaiah 65:15A’ch enw a adewch yn felltith gan fy etholedigion: canys yr ARGLWYDD DDUW a’th ladd di, ac a eilw ei weision ar enw arall: º
Jeremiah 24:9Ie, rhoddaf hwynt i’w symud i holl deyrnasoedd y ddaear, er drwg iddynt, i fod yn waradwydd ac yn ddihareb, yn watwargerdd ac yn felltith, ym mhob man lle y gyrrwyf hwynt. º
Jeremiah 29:22A holl gaethglud Jwda, yr hon sydd yn Babilon, a gymerant y rheg hon oddi" wrthynt hwy, gan ddywedyd, Gwneled yr ARGLWYDD dydi fel Sedeceia ac fel Ahab, y rhai a rostiodd brenin Babilon wrth y tân; º
Jeremiah 42:22Ac yn awr gwybyddwch yn hysbys, mai trwy y cleddyf, a thrwy newyn, a thrwy haint, y byddwch chwi feirw yn y lle yr ydych yn ewyllysio myned i ymdeithio ynddo.
Jeremiah 44:7Ac yn awr fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW y lluoedd, Duw Israel; Paham y gwnewch y mawr ddrwg hwn yn erbyn eich eneidiau, i dorri ymaith oddi wrthych ŵr a gwraig, plentyn, a’r hwn sydd yn sugno, allan o Jwda, fel na adawer i chwr weddill? º
Hosea 9:6Canys wele, aethant ymaith gan ddinistr; yr Aifft a’u casgl hwynt, Memffis a’u cladd hwynt: danadl a oresgyn hyfryd leoedd eu harian hwynt; drain a dyf yn eu pebyll.