Llyfr Jeremeia 44:15
Yna yr holl wŷr y rhai a wyddent i’w gwragedd arogl-darthu i dduwiau dieithr, a’r holl wragedd y rhai oedd yn sefyll yno, cynulleidfa fawr, yr holl bobl y rhai oedd yn trigo yng ngwlad yr Aifft, yn Pathros, a atebasant Jeremeia, gan ddywedyd, x 6 Am y gair a leferaist ti wrthym ni yn enw yr ARGLWYDD, ni wrandawn ni arnat. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Deuteronomy 13:7Sef rhai o dduwiau y bobl sydd o’ch amgylch chwi, yn agos attat, neu ym mhell oddi wrthyt, o un cwrr i’r tir hyd gwrr arall y tir:
Proverbs 11:21Er maint fyddo cymorth, y drygionus ni bydd ddieuog: ond had y cyfiawn a waredir.
Jeremiah 5:1Rhedwch yma a thraw ar hyd heolydd Jerwsalem, ac edrychwch yr awr hon, mynnwch wybod hefyd, a cheisiwch yn ei heolydd hi, o chewch ŵr, a oes a wnei farn, a gais wirionedd, a myfi a’i harbedaf hi.
Matthew 7:13¶ Ewch i mewn trwy’r porth cyfyng: canys eang yw’r porth, a llydan yw’r ffordd sydd yn arwain i ddistryw; a llawer yw’r rhai sydd yn myned i mewn trwyddi: