Llyfr Jeremeia 44:6
Am hynny y tywalltwyd fy llid a’m digofaint, ac y llosgodd efe yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem; ac y: maent hwy yn anghyfannedd, ac ynl ddiffeithwch, fel y gwelir heddiw. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Isaiah 6:11Yna y dywedais. Pa hyd, ARGLWYDD? Ac efe a atebodd, Hyd oni anrheithier y dinasoedd heb drigiannydd, a’r tai heb ddyn, a gwneuthur y wlad yn gwbl anghyfannedd,
Isaiah 51:20Dy feibion a lewygasant, gorweddant ym mben pob heol, fel tarw gwyllt mewn magi: llawn ydynt o lidiowgrwydd yr ARGLWYDD, a cherydd dy DDUW. º
Jeremiah 7:20Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW, Wele, fy llid a’m digofaint a dywelltir ar y man yma, ar ddyn ac ar anifail, ar goed y maes, ac ar ffrwyth y ddaear; ac efe a lysg, ac nis diffoddir.
Jeremiah 8:3Ac angau a ddewisir o flaen bywyd gan yr holl weddillion a adewir o’r teulu drwg hwn, y rhai a adewir yn y lleoedd oll y gyrrais i hwynt yno, medd ARGLWYDD y lluoedd.
Jeremiah 21:12O dŷ Dafydd, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Bernwch uniondeb y bore, ac achubwch y gorthrymedig o law y gorthrymwr, rhag i’m llid dorri allan fel tân, a llosgi fel na allo neb ei ddiffodd, oherwydd drygioni eich gweithredoedd. º
Jeremiah 36:7Fe allai y daw eu gweddi hwynt gerbron yr ARGLWYDD, ac y dychwelant bob un o’i ffordd ddrygionus: canys mawr yw y llid a’r digofaint a draethodd yf APGLWYDD yn erbyn y bobl hyn. º