Llyfr Jeremeia 46:28
O fy ngwas Jacob, nac ofna, medd yr ARGLWYDD; canys yr ydwyf fi gyda thi; canys mi a wnaf ddiben ar yr holl genhedloedd y rhai y’th fwriais atynt; ond ni wnaf fi ddiben arnat ti; eithr mi a’th gosbaf di mewn barn, ac ni’th dorraf ymaith yn llwyr.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Joshua 1:5Ni saif neb o’th flaen di holl ddyddiau dy einioes: megis y bûm gyd â Moses, y byddaf gyd â thithau: ni’th adawaf, ac ni’th wrthodaf.
Psalms 46:7Ceraist gyfiawnder, a chaseaist ddrygioni: am hynny y’th eneiniodd DUW, sef dy DDUW di, ag olew llawenydd yn fwy na’th gyfeillion.
Isaiah 8:9Ymgyfeillechwch, bobloedd, a chwi a ddryllir: gwrandewch, holl belledigion y gwledydd; ymwregyswch, a chwi a ddryllir; ymwregyswch, a chwi a ddryllir. º
Isaiah 27:9Am hynny trwy hyn y glanheir an¬wiredd Jacob; a dyna’r holl ffrwyth, tynnu ymaith ei bechod: pan wnelo efe holl gerrig yr allor fel cerrig calch briwedig, ni saif y llwyni na’r delwau. º
Isaiah 43:2Pan elych trwy y dyfroedd, myfi a fyddaf gyda thi; a thrwy yr afonydd, fel na lifant drosot: pan rodiech trwy’r tan) ni’th losgir; ac ni ennyn y fflam arnat. º
Jeremiah 1:19Ymladdant hefyd yn dy erbyn, ond ni’th orchfygant: canys myfi sydd gyda thi i’th ymwared, medd yr ARGLWYDD.