Llyfr Jeremeia 46:6
Na chaed y buan ffoi, na’r cadarn ddianc; tua’r gogledd, gerllaw afan Ewffrates, y tripiant, ac y syrthiant. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
7Pwy yw hwn sydd yn ymgodi fel afon, a’i ddyfroedd yn dygyfor fel yr afonydd? º
Cross References
Judges 4:15A’r ARGLWYDD a ddrylliodd Sisera, a’i holl gerbydau, a’i holl fyddin, â min y cleddyf, o flaen Barac: a Sisera a ddisgynnodd oddi ar ei gerbyd, ac a ffodd ar ei draed.
2 Kings 24:7Ac ni ddaeth brenin yr Aifft mwyach o’i wlad: canys brenin Babilon a ddygasai yr hyn oll a oedd eiddo brenin yr Aifft, o afon yr Aifft hyd afon Ewffrates. º
Ecclesiastes 9:11Mi a droais, ac a welais dan haul, nad yw y rhedfa yn eiddo y cyflym, na’r rhyfel yn eiddo y cedyrn, na’r bwyd yn eiddo y doethion, na chyfoeth yn eiddo y pwyllog, na ffafr yn eiddo y cyfarwydd: ond amser a damwain a ddigwydd iddynt oll.
Isaiah 30:16Eithr dywedasoch, Nid felly; canys ni a ffown ar feirch; am hynny y ffowch: a marchogwn ar feirch buain; am hynny y bydd buain y rhai a’ch erlidio. º
Jeremiah 4:6Codwch faner tua Seion; ffowch, ac na sefwch; canys mi a ddygaf ddrwg o’r gogledd, a dinistr mawr.