Llyfr Jeremeia 48:12
Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, pan anfonwyf fudwyr, y rhai a’i mudant hi, ac a wacant ei llestri hi, ac a ddrylliant eu costrelau. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
13A Moab a gywilyddia oblegid Cemos, fel y cywilyddiodd tŷ Israel oblegid Bethel eu hyder hwynt. º
Cross References
Isaiah 16:2Bydd fel aderyn yn gwibio wedi ei fwrw allan o’r nyth; felly y bydd merched Moab wrth rydau Arnon. º
Jeremiah 14:3A’u boneddigion a hebryngasant eu rhai bychain i’r dwfr: daethant i’r ffosydd, ni chawsant ddwfr; dychwelasant â’u llestri yn weigion: cywilyddio a gwladeiddio a wnaethant, a chuddio eu pennau.
Jeremiah 25:9Wele, mi a anfonaf ac a gymeraf holl deuluoedd y gogledd, medd yr AR¬GLWYDD, a Nebuchodonosor brenin Babilon, fy ngwas, a mi a’u dygaf hwynt yn erbyn y wlad hon, ac yn erbyn ei phreswylwyr, ac yn erbyn yr holl genhedloedd hyn oddi amgylch; difrodaf hwynt hefyd, a gosodaf hwynt yn syndod, ac yn chwibaniad, ac yn anrhaith tragwyddol. º
Jeremiah 48:8A’r anrheithiwr a ddaw i bob dinas, ac ni ddianc un ddinas: eithr derfydd am y dyffryn, a’r gwastad a ddifwynir, megis y dywedodd yr ARGLWYDD. º
Jeremiah 48:15Moab a anrheithiwyd, ac a aeth i fyny o’i dinasoedd, a’i dewis wŷr ieuainc a ddisgynasant i’r lladdfa, medd y Brenin, a’i enw ARGLWYDD y lluoedd. º
Ezekiel 25:9Am hynny wele fi yn agori ystlys Moab o'r dinasoedd, o'i ddinasoedd ef y rhai sydd yn ei gyrrau, gogoniant y wlad, Bethjesimoth, Baal-meon, a Ciriathaim,