Llyfr Jeremeia 48:18
O breswylferch Dibon, disgyn o’th ogoniant, ac eistedd mewn syched; cahys anrheithiwr Moab a ddaw i’th erbyn, ac a ddinistria dy amddiffynfeydd. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 21:16A hi a aeth, ac a eisteddodd ei hunan ym mhell ar ei gyfer, megis ergyd bwa: canys dywedasai, Ni allaf fi edrych ar y bachgen yn marw. Felly hi a eisteddodd ar ei gyfer, ac a ddyrchafodd ei llef, ac a wylodd.
Numbers 21:30Saethasom hwynt: darfu am Hesbon, hyd Dibon: ac anrheithiasom hyd Nophah, yr hon sydd hyd Medeba.
Joshua 13:9O Aroer, yr hon sydd ar fin afon Arnon, a’r ddinas sydd y’nghanol y dyffryn, a holl wastadedd Medeba, hyd Dibon:
Judges 15:18Ac efe a sychedodd yn dost; ac a lefodd ar yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Tydi a roddaist yn llaw dy was yr ymwared mawr yma: ac yn awr a fyddaf fi farw gan syched, a syrthio yn llaw y rhai dienwaededig? º
Isaiah 15:2Aeth i fyny i Baith, ac i Dibon, i’r uchelfeydd, i wylo: am Nebo, ac am Medeba, yr uda Moab; bydd moelni ar eu holl bennau, a phob barf wedi ei heillio. º
Jeremiah 46:18Fel mai byw fi, medd y Brenin, enw yr hwn yw ARGLWYDD y lluoedd, cyn sicred a bod Tabor yn y mynyddoedd, a Channel yn y môr, efe a ddaw. º