Llyfr Jeremeia 48:36
Am hynny y lleisia fy nghalon am Moab fel pibellau, ac am wŷr Cir-heres y lleisia fy nghalon fel pibellau; oblegid darfod y golud a gasglodd. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
2 Kings 3:25A hwy a ddistrywiasant y dinasoedd, ac i bob darn o dir da y bwriasant bawb ei garreg, ac a’i llanwasant; a phob ffynnon ddwfr a gaeasant hwy, a phob pren da a gwympasant hwy i lawr: yn unig yn Cir-haraseth y gadawsant ei cherrig; eto y rhai oedd yn taflu a’i hamgylchynasant, ac a’i trawsant hi.
Proverbs 13:22Y gŵr daionus a ad etifeddiaeth i feibion ei feibion: a golud y pechadur a a roddwyd i gadw i’r cyfiawn.
Ecclesiastes 5:13Melys yw hun y gweithiwr, pa un bynnag ai ychydig ai llawer a fwytao: ond llawnder y cyfoethog ni ad iddo gysgu. 13 Y mae trueni blin a welais dan yr haul, cyfoeth wedi eu cadw yn niwed i’w perchennog.
Isaiah 15:7Am hynny yr helaethrwydd a gawsant, a’r hyn a roesant i gadw, a ddygant i afon yr helyg. º
Isaiah 63:15Edrych o’r nefoedd a gwêl o annedd dy sancteiddrwydd a’th ogoniant: mae dy sel a’th gadernid, lluosowgrwydd dy dosturiaethau a’th drugareddau tuag ataf fi? a ymataliasant? º
Jeremiah 17:11Fel petris yn eistedd, ac heb ddeor, yw yr hwn a helio gyfoeth yn annheilwng: yn hanner ei ddyddiau y gedy hwynt, ac yn ei ddiwedd ynfyd fydd. º