Llyfr Jeremeia 5:17
A hi a fwyty dy gynhaeaf di, a’th fara, yr hwn a gawsai dy feibion di a’th ferched ei fwyta: hi a fwyty dy ddefaid di a’th wartheg; hi a fwyty dy winwydd a’th ffigyswydd: dy ddinasoedd cedyrn, y rhai yr wyt yn ymddiried ynddynt, a dioda hi â’r cleddyf.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
16Ei chawell saethau hi sydd fel bedd agored, cedyrn ydynt oll.
18Ac er hyn, yn y dyddiau hynny, medd yr ARGLWYDD, ni wnaf fi gwbl ben â chwi.
Cross References
Deuteronomy 28:30Ti a ymgredi â gwraig, a gwr arall a gyd-orwedd â hi: ti a adeiledi dŷ, ac ni thrigi ynddo: ti a blenni winllan, ac ni chesgli ei ffrwyth.
Judges 6:3A phan heuasai Israel, yna Midian a ddaeth i fyny, ac Amalec, a meibion y dwyrain; hwy a ddaethant i fyny yn eu herbyn hwy:
Isaiah 62:9Eithr y rhai a’i casglant a’i bwytânt, ac a foliannant yr ARGLWYDD; a’r rhai a’i cynullasant a’i hyfant o fewn cynteddoeddi fy sancteiddrwydd. º
Jeremiah 1:15Canys wele, myfi a alwaf holl deuluoedd teyrnasoedd y gogledd, medd yr ARGLWYDD, a hwy a ddeuant, ac a osodant bob un ei orseddfainc wrth ddrws porth Jerwsalem, ac yn erbyn ei muriau oll o amgylch, ac yn erbyn holl ddinasoedd Jwda.
Jeremiah 4:26Mi a edrychais, ac wele y doldir yn anialwch, a’i holl ddinasoedd a ddistrywiasid o flaen yr ARGLWYDD, gan lidiowgrwydd ei ddicter ef.
Jeremiah 50:7Pawb a’r a’u cawsant a’u difasant, a’u gelynion a ddywedasant, Ni wnaethom ni ar fai; canys hwy a bechasant yn erbyn yr ARGLWYDD, trigle cyfiawnder; sef yr ARGLWYDD, gobaith eu tadau. º