Llyfr Jeremeia 5:24
Ac ni ddywedant yn eu calon, Ofnwn weithian yr ARGLWYDD ein Duw, yr hwn sydd yn rhoi’r glaw cynnar a’r diweddar yn ei amser: efe a geidw i ni ddefodol wythnosau y cynhaeaf.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
23Eithr i’r bobl hyn y mae calon wrthnysig ac anufuddgar: hwynt-hwy a giliasant, ac a aethant ymaith.
Cross References
Deuteronomy 11:13¶ A bydd, os gan wrandaw y gwrandêwch ar fy ngorchymynion, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i chwi heddyw, i garu yr Arglwydd eich Duw, ac i’w wasanaethu, â’ch holl galon, ac â’ch holl enaid;
Deuteronomy 28:12Yr Arglwydd a egyr ei drysor daionus i ti, sef y nefoedd, i roddi gwlaw i’th dir di yn ei amser, ac i fendigo holl waith dy law: a thi a roddi echwyn i genhedloedd lawer, ac ni cheisi echwyn.
Job 5:10Yr hwn sydd yn rhoddi glaw ar wyneb y ddaear; ac yn danfon dyfroedd ar wyneb y meysydd:
Job 36:27Canys efe a wna y defnynnau dyfroedd yn fân: hwy a dywalltant law fel y byddo ei darth;
Psalms 147:8Yr ARGLWYDD sydd yn agoryd llygaid y deillion: yr ARGLWYDD sydd yn codi y rhai a ddarostyngwyd: yr ARGLWYDD sydd yn hoffi y rhai cyfiawn.
Jeremiah 3:3Am hynny yr ataliwyd y cafodydd, ac ni bu glaw diweddar; a thalcen puteinwraig oedd i ti; gwrthodaist gywilyddio.