Llyfr Jeremeia 5:3
Oarglwydd, onid ar y gwirionedd y mae dy lygaid di? ti a’u trewaist hwynt, ac nid ymofidiasant; difeaist hwynt, eithr gwrthodasant dderbyn cerydd: hwy a wnaethant eu hwynebau yn galetach na chraig, gwrthodasant ddychwelyd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
2Ac er dywedyd ohonynt, Byw yw yr ARGLWYDD, eto yn gelwyddog y tyngant.
Cross References
Leviticus 26:23Ac os wrth hyn ni chymmerwch ddysg gennyf, ond rhodio yn y gwrthwyneb i mi;
2 Chronicles 16:9Canys y mae llygaid yr ARGLWYDD yn edrych ar yr holl ddaear, i’w ddangos ei hun yn gryf gyda’r rhai sydd a’u calon yn berffaith tuag ato ef. Ynfyd y gwnaethost yn hyn; am hynny rhyfeloedd fydd i’th erbyn o hyn allan.
Psalms 11:4Yr annuwiol, gan uchder ei ffroen, ni chais DDUW: nid yw DUW yn ei holl feddyliau ef.
Psalms 51:8Nid am dy aberthau y’th geryddaf, na’th boethoffrymau, am nad oeddynt ger fy mron i yn wastad.
Proverbs 21:29Gŵr annuwiol a galeda ei wyneb: ond yr uniawn a gyfarwydda ei ffordd.
Proverbs 23:35Curent fi, meddi, ac ni chlafychais; dulient fi, ac nis gwybûm: pan ddeffrowyf, mi a af rhagof; mi a’i ceisiaf drachefn.