Llyfr Jeremeia 51:46
A rhag llwfrhau eich calonnau, ac ofni rhag y chwedl a glywir yn y wlad: a’r naill flwyddyn y daw chwedl newydd, ac ar ôl hynny chwedl newydd y flwyddyn arall; a thrais yn y wlad, llywodraethwr yn erbyn llywodraethwr. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
45Deuwch allan o’i chanol, O fy mhobl, ac achubwch bob un ei enaid rhag llid digofaint yr ARGLWYDD, º
Cross References
1 Samuel 14:16A gwylwyr Saul yn Gibea Benjamin a edrychasant; ac wele y lliaws yn ymwas garu, ac yn myned dan ymguro. º
2 Chronicles 20:23Canys meibion Ammon a Moab a gyfodasant yn erbyn trigolion mynydd Seir, i’w difrodi, ac i’w difetha hwynt: a phan orffenasant hwy drigolion Seir, hwy a helpiasant ddifetha pawb ei gilydd.
Isaiah 19:2Gyrraf hefyd yr Eifftiaid yn erbyn yr Eifftiaid, a hwy a ymladdant bob un yn erbyn ei frawd, a phob un yn erbyn ei gymydog; dinas yn erbyn dinas, a theyrnas yn erbyn teyrnas. º
Jeremiah 46:27Ond nac ofna di, O fy ngwas Jacob; a thithau Israel, na ddychryna; canys wele, myfi a’th gadwaf di o bell, a’th had o wlad eu caethiwed; a Jacob a ddychwel, ac a orffwys, ac a fydd es-mwyth arno, ac heb neb a’i dychryno. º
Mark 13:7Ond pan glywoch am ryfeloedd, a sôn am ryfeloedd, na chyffroer chwi: canys rhaid i hynny fod; ond nid yw’r diwedd eto.
Luke 21:28A phan ddechreuo’r pethau hyn ddyfod, edrychwch i fyny, a chodwch eich pennau: canys y mae eich ymwared. yn nesau.