Llyfr Jeremeia 52:7
Yna y torrwyd y ddinas; a’r holl ryfelwyr a ffoesant, ac a aethant allan o’r ddinas liw nos, ar hyd ffordd y porth rhwng y ddau fur, yr hwn oedd wrth ardd y brenin, (a’r Caldeaid oedd wrth y ddinas o amgylch,) a hwy a aethant ar hyd ffordd y rhos. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Leviticus 26:36A’r hyn a weddillir o honoch, dygaf lesgedd ar eu calonnau yn nhir eu gelynion; a thrwst deilen yn ysgwyd a’u herlid hwynt; a ffoant fel ffoi rhag cleddyf; a syrthiant hefyd heb neb yn eu herlid.
Deuteronomy 32:30Pa fodd yr ymlidiai un fil, ac y gyrrai dau ddengmil i ffoi, onid am werthu o’u Craig hwynt, a chau o’r Arglwydd arnynt?
2 Kings 25:4A’r ddinas a dorrwyd, a’r holl ryfelwyr a ffoesant liw nos ar hyd ffordd y porth, rhwng y ddau fur, y rhai sydd wrth ardd y brenin, (a’r Caldeaid oedd wrth y ddinas o amgylch;) a’r brenin a aeth y ffordd tua’r rhos. º
Jeremiah 34:2Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel; DOS, a llefara wrth Sedeceia brenin Jwda, a dywed wrtho, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Wele fi yn rhoddi y ddinas hon i law brenin Babilon, ac efe a’i llysg hi â thân: º
Jeremiah 49:26Am hynny ei gwŷr ieuainc a syrthiant yn ei heolydd, a’r holl ryfelwyr a ddifethir y dydd hwnnw, medd AR¬GLWYDD y lluoedd. º
Ezekiel 12:4A dwg allan dy ddodrefn liw dydd yng ngwydd eu llygaid, fel dodrefn caethglud: a dos allan yn yr hwyr yng, ngwydd eu llygaid, fel rhai yn myned allan i gaethglud.