Llyfr Jeremeia 52:9
Yna hwy a ddaliasant y brenin, ac a’i dygasant ef at frenin Babilon i Ribia yng ngwlad Hamath; ac efe a roddodd farn arno ef. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Numbers 34:11Ac aed y terfyn i waered o Sepham i Riblah, ar du dwyrain Ain; a disgyned y terfyn, ac aed hyd ystlys môr Cinnereth tu a’r dwyrain.
1 Kings 8:65A Solomon a gadwodd y pryd hwnnw wyl, a holl Israel gydag ef, cynulleidfa fawr, o ddyfodfa Hamath hyd afon yr Aifft, gerbron yr ARGLWYDD ein Duw, saith o ddyddiau a saith o ddyddiau, sef pedwar diwrnod ar ddeg. º
2 Kings 25:6Felly hwy a ddaliasant y brenin, ac a’i dygasant ef i fyny at frenin Babilon i Ribia; ac a roddasant farn yn ei erbyn ef. º
2 Chronicles 33:11Am hynny y dug yr ARGLWYDD arnynt hwy dywysogion llu brenin Asyria, a hwy a ddaliasant Manasse mewn drysni, ac a’i rhwymasant ef â dwy gadwyn, ac a’i dygasant ef i Babilon.
Jeremiah 39:5A llu y Caldeaid a erlidiasant ar eu hôl hwynt, ac a oddiweddasant Sedeceia yn rhosydd Jericho, ac a’i daliasanc ef, ac a’i dygasant at Nebuchodonosor brenin Babilon, i Ribia yng ngwlad Hamath; lle y rhoddodd efe fam arno. º
Ezekiel 21:25Tithau, halogedig annuwiol dywysog Israel, yr hwn y daeth ei ddydd, yn amser diwedd anwiredd,