Llyfr Jeremeia 6:12
A’u tai a ddigwyddant i eraill, eu meysydd a’u gwragedd hefyd: canys estynnaf fy llaw ar drigolion y wlad, medd yr ARGLWYDD.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Deuteronomy 28:30Ti a ymgredi â gwraig, a gwr arall a gyd-orwedd â hi: ti a adeiledi dŷ, ac ni thrigi ynddo: ti a blenni winllan, ac ni chesgli ei ffrwyth.
1 Chronicles 21:16A Dafydd a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfu angel yr ARGLWYDD yn sefylli rhwng y ddaear a’r nefoedd, a’i gleddyf noeth yn ei law wedi ei estyn tua Jerw¬salem. A syrthiodd Dafydd a’r henuriaid, y rhai oedd wedi ymwisgo mewn sachliain, ar eu hwynebau. º
Isaiah 9:12Y Syriaid o’r blaen, a’r Ph’listiaid hefyd o’r ôl: a hwy a ysant Israel yn safnrhwth. Er hyn i gyd ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef yn estynedig. º
Isaiah 9:21Manasse, Effraim; ac Effraim, Manasse: hwythau ynghyd yn erbyn Jwda. Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef yn estynedig.
Isaiah 65:21A hwy a adeiladant dai, ac a’u cyfanheddant; plannant hefyd winllannoedd, a bwytânt eu ffrwyth. º
Jeremiah 38:22Ac wele, yr holl wragedd, y rhai 9 adawyd yn nhŷ brenin Jwda, a ddygir allan at dywysogion brenin Babiion; a hwy a ddywedant, Dy gyfeillion a’th hudasant, ac a’th orchfygasant; dy draed a lynasant yn y dom, a hwythau a droesant yn eu hôl. º