Llyfr Jeremeia 6:16
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Sefwch ar y ffyrdd, ac edrychwch, a gofynnwch am yr hen lwybrau, lle mae ffordd dda, a rhodiwch ynddi; a chwi a gewch orffwystra i’ch eneidiau. Ond hwy a ddywedasant, Ni rodiwn ni ynddi.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Judges 2:17Ond ni wrandawent chwaith ar eu barnwyr; eithr puteiniasant ar ôl duwiau dieithr, ac ymgrymasant iddynt: ciliasant yn ebrwydd o’r ffordd y rhodiasai eu tadau hwynt ynddi, gan wrando ar orchmynion yr ARGLWYDD, ond ni wnaethant hwy felly.
Song of Solomon 1:7Mynega i mi, yr hwn a hoffodd fy enaid, pa le yr wyt yn bugeilio, pa le y gwnei iddynt orwedd ganol dydd: canys paham y byddaf megis un yn troi heibio wrth ddiadellau dy gyfeillion?
Isaiah 8:20At y gyfraith, ac at y dystiotaeth: oni ddywedant yn ôl y gair hwn, hyany sydd am nad oes oleuni ynddynt. º
Isaiah 30:21A’th, glustiau a glywant;air o’th, ôl yn dywedyd, Dyma y ffordd, rhodiwch ynddi, pan bwysoch ar y llaw ddeau, neu pan bwysoch ar y llaw aswy. º
Isaiah 57:2Efe a â i dangnefedd: hwy a orffwys- aat yn eu hystafelloedd, sef pob un a TOdia yn ei uniondeb. º
Jeremiah 7:3Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel, Gwellhewch eich ffyrdd, a’ch gweithredoedd; ac mi a wnaf i chwi drigo yn y man yma.