Llyfr Jeremeia 6:26
Merch fy mhobl, ymwregysa â sachliain, ac ymdroa yn y lludw; gwna i ti gwynfan a galar tost, megis am unig fab: canys y distrywiwr a ddaw yn ddisymwth arnom ni.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
27Mi a’th roddais di yn dŵr ac yn gadernid ymysg fy mhobl, i wybod ac i brofi eu ffordd hwy.
Cross References
Job 15:21Trwst ofnadwy sydd yn ei glustiau ef: mewn heddwch y daw y dinistrydd arno.
Isaiah 22:4Am hynny y dywedais, Edrychwchf oddi wrthyf; mi a wylaf yn chwerw, na lafuriwch fy nghysuro, am ddinistr merch fy mhobl. º
Isaiah 30:13Am hynny y bydd yr anwiredd hyn i chwi fel rhwygiad chwyddedig mewn mur uchel ar syrthio, yr hwn y daw ei ddrylliad yn ddisymwth heb atreg. º
Jeremiah 4:8Am hyn ymwregyswch â lliain sach; galerwch ac udwch: canys angerdd llid yr ARGLWYDD ni throes oddi wrthym ni.
Jeremiah 4:20Dinistr ar ddinistr a gyhoeddwyd; canys yr holl dir a anrheithiwyd: yn ddisymwth y distrywiwyd fy lluestai i, a’m cortenni yn ddiatreg.
Jeremiah 8:19Wele lais gwaedd merch fy mhobl, oblegid y rhai o wlad bell: Onid ydyw yr ARGLWYDD yn Seion? onid yw ei brenin hi ynddi? paham y’m digiasant a’u delwau cerfiedig, ac ag oferedd dieithr?