Llyfr Jeremeia 6:7
Megis y gwna ffynnon i’w dwfr darddu allan, felly y mae hi yn bwrw allan ei drygioni: trais ac ysbail a glywir ynddi; gofid a dyrnodiau sydd yn wastad ger fy mron.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Isaiah 1:6O wadn y troed hyd y pen nid oes dim cyfan ynddo; ond archollion, a chleisiau, a gweliau crawnllyd: ni wasgwyd hwynt, ac ni rwymwyd, ac ni thynerwyd ag olew.
Isaiah 59:6Eu gweoedd hwy ni byddant yn wisgoedd, ac nid ymddilladant a’u gweithredoedd: eu gweithredoedd ydynt weithredoedd anwiredd, a gwaith trawster sydd yn eu dwylo. º
Jeremiah 20:8Canys er pan leferais, mi a waeddais, trais ac anrhaith a lefais; am fod gair yr ARGLWYDD yn waradwydd ac yn watwar¬gerdd i mi beunydd. º
Jeremiah 30:15Paham y bloeddi am dy ysictod? anafus yw dy ddolur, gan amlder dy anwiredd: oherwydd amlhau o’th bech¬odau y gwneuthum hyn i ti. º
Ezekiel 7:23Troaf hefyd fy wyneb oddi wrthynt, a halogant fy nirgelfa: ie, anrheithwyr a ddaw iddi, ac a'i halogant. 23 Gwna gadwyn, canys llanwyd y tir o farn waedlyd, a'r ddinas sydd lawn o drais.