Llyfr Jeremeia 7:23
Eithr y peth hyn a orchmynnais iddynt, gan ddywedyd, Gwrandewch ar fy llef, a mi a fyddaf DDUW i chwi, a chwithau fyddwch yn bobl i minnau; a rhodiwch yn yr holl ffyrdd a orchmyn¬nais i chwi, fel y byddo yn ddaionus i chwi.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 15:26Ac a ddywedodd, Os gan wrandaw y gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, ac os gwnei di yr hyn sydd uniawn yn ei olwg ef, a rhoddi clust i’w orchymynion ef, a chadw ei holl ddeddfau ef; ni roddaf arnat un o’r clefydau a roddai ar yr Aiphtiaid; o herwydd myfi yw yr Arglwydd dy iachawdwr di.
Exodus 19:6A chwi a fyddwch i mi yn frenhiniaeth o offeiriaid, ac yn genhedlaeth sanctaidd. Dyma y geiriau a leferi di wrth feibion Israel.
Leviticus 26:12A mi a rodiaf yn eich plith; a byddaf yn Dduw i chwi, a chwithau a fyddwch yn bobl i mi.
Deuteronomy 4:40Cadw dithau ei ddeddfau ef, a’i orchymynion, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddyw; fel y byddo yn dda i ti, ac i’th feibion ar dy ol di, fel yr estynech ddyddiau ar y ddaear, yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti byth.
Deuteronomy 5:29O na byddai gyfryw galon ynddynt, i’m hofni i, ac i gadw fy holl orchymynion bob amser; fel y byddai da iddynt ac i’w plant yn dragywyddol!
Deuteronomy 6:3¶ Clyw gan hynny, O Israel, ac edrych am eu gwneuthur hwynt; fel y byddo yn ddaionus i ti, ac fel y cynnyddoch yn ddirfawr, fel yr addawodd Arglwydd Dduw dy dadau i ti, mewn gwlad yn llifeirio o laeth a mêl.