Llyfr Jeremeia 7:28
Eithr ti a ddywedi wrthynt, Dyma genedl ni wrendy ar lais yr ARGLWYDD ei Duw, ac ni dderbyn gerydd: darfu am y gwirionedd, a thorrwyd hi ymaith o’u genau hwynt.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Psalms 12:2Canys wele, y drygionus a anelant fwa, paratoesant eu saethau ar y llinyn i saethu yn ddirgel y rhai uniawn o galon.
Proverbs 1:7Ofn yr ARGLWYDD yw dechreuad gwybodaeth: ond ffyliaid a ddiystyrant ddoethineb ac addysg.
Isaiah 30:9Mai pobl wrthryfeigar yw y rhai hyn, plant celwyddog, plant ni fynnant wrando cyfraith yr ARGLWYDD: ‘ º
Jeremiah 2:30Yn ofer y trewais eich plant chwi, ni dderbyniasant gerydd: eich cleddyf eich hun a ddifaodd eich proffwydi, megis llew yn distrywio.
Jeremiah 5:3Oarglwydd, onid ar y gwirionedd y mae dy lygaid di? ti a’u trewaist hwynt, ac nid ymofidiasant; difeaist hwynt, eithr gwrthodasant dderbyn cerydd: hwy a wnaethant eu hwynebau yn galetach na chraig, gwrthodasant ddychwelyd.
Jeremiah 6:28Cyndyn o’r fath gyndynnaf ydynt oll, yn rhodio ag enllib; efydd a haearn ynt; llygru y maent hwy oll.