Llyfr Jeremeia 8:6
Mi a wrandewais ac a glywais, ond ni ddywedent yn iawn: nid edifarhaodd neb am ei anwiredd, gan ddywedyd, Beth a wneuthum i? pob un oedd yn troi i’w yrfa, megis march yn rhuthro i’r frwydr.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Job 10:2Dywedaf wrth DDUW, Na farn fi yn euog; gwna i mi wybod paham yr ymrysoni â mi.
Job 34:31Ond wrth DDUW, yr hwn a ddywed, Mi a faddeuais, nid anrheithiaf, y dylid dywedyd;
Job 39:19A roddaist ti gryfder i farch? neu a ddysgaist iddo weryru?
Psalms 14:2Pa hyd y cymeraf gynghorion yn fy enaid, gan fod blinder beunydd yn fy nghalon? pa hyd y dyrchefir fy ngelyn arnaf?
Isaiah 57:17Am anwiredd ei gybydd-dod ef y digiais, ac y trewais ef: ymguddiais, a digiais, ac efe a aeth rhagddo yn gildynnus ar hyd ffordd ei galon. º
Jeremiah 2:24Asen wyllt wedi ei chynefino â’r anialwch, wrth ddymuniad ei chalon yn yfed gwynt, wrth ei hachlysur pwy a’i try ymaith? pawb a’r a’i ceisiant hi, nid ymflinant; yn ei mis y cânt hi.