Llyfr Jeremeia 9:17
Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Edrychwch, a gelwch am alarwragedd i ddyfod, a danfonwch am y rhai cyfarwydd, i beri iddynt ddyfod,
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
2 Chronicles 35:25Jeremeia hefyd a alarnadodd am Joseia, a’r holl gantorion a’r cantoresau yn eu galarnadau a soniant am Joseia hyd heddiw, a hwy a’i gwnaethant yn ddefod yn Israel; ac wele hwynt yn ysgrifenedig yn y galarnadau.
Ecclesiastes 12:5Ie, yr amser yr ofnant yr hyn sydd uchel, ac yr arswydant yn y ffordd, ac y blodeua y pren almon, ac y bydd y ceiliog rhedyn yn faich, ac y palla chwant: pan elo dyn i dŷ ei hir gartref, a’r galarwyr yn myned o bob tu yn yr heol:
Matthew 9:23A phan ddaeth yr Iesu i dŷ’r pennaeth, a gweled y cerddorion a’r dyrfa yn terfysgu,