Llyfr Job 1:11
Eithr estyn yn awr dy law, a chyffwrdd â’r hyn oll sydd ganddo, ac efe a’th felltithia o flaen dy wyneb.
Beibl (1620)
In The King James Version
But put forth thine hand now, and touch all that he hath, and he will curse thee to thy face.
In Context
Cross References
Job 1:5A phan ddeuai dyddiau y wledd oddi amgylch, yna Job a anfonai ac a’u sancteiddiai hwynt, ac a gyfodai yn fore, ac a offrymai boethoffrymau yn ôl eu rhifedi hwynt oll: canys dywedodd Job, Fy meibion ond odid a bechasant, ac a felltithiasant DDUW yn eu calonnau. Felly y gwnai Job yr holl ddyddiau hynny.
Job 1:21Ac a ddywedodd, Noeth y deuthum o groth fy mam, a noeth y dychwelaf yno. Yr ARGLWYDD a roddodd, a’r ARGLWYDD a ddygodd ymaith; bendigedig fyddo enw yr ARGLWYDD.
Job 2:5Eithr estyn yn awr dy law, a chyffwrdd â’i esgyrn ef ac â’i gnawd, ac efe a’th felltithia di o flaen dy wyneb.
Job 2:7Felly Satan a aeth allan oddi ger¬bron yr ARGLWYDD, ac a drawodd Job â chornwydydd blin, o wadn ei droed hyd ei gorun.
Job 4:5Ond yn awr, daeth arnat tithau, ac y mae yn flin gennyt; cyffyrddodd â thi, a chyffroaist.
Psalms 105:15A gwin, yr hwn a lawenycha galon dyn; ac olew, i beri i’w wyneb ddisgleirio: a bara, yr hwn a gynnal galon dyn.