Llyfr Job 10:3
Ai da i ti orthrymu, fel y diystyrit waith dy ddwylo, ac y llewyrchit gyngor yr annuwiol?
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
2Dywedaf wrth DDUW, Na farn fi yn euog; gwna i mi wybod paham yr ymrysoni â mi.
4Ai llygaid o gnawd sydd i ti? ai fel y gwêl dyn y gweli di?
Cross References
Job 9:22Dyma un peth, am hynny mi a’i dywedais: y mae efe yn difetha y perffaith a’r annuwiol.
Job 14:15Gelwi, a myfi a’th atebaf; chwenychi waith dy ddwylo.
Job 21:16Wele, nid ydyw eu daioni hwy yn eu llaw eu hun: pell yw cyngor yr annuwiol oddi wrthyf fi.
Job 34:5Canys dywedodd Job, Cyfiawn ydwyf; a DUW a ddug ymaith fy marn.
Job 36:7Ni thyn efe ei olwg oddi ar y cyfiawn; eithr y maent gyda brenhinoedd, ar yr orseddfainc; ie, efe a’u sicrha yn dragywydd, a hwy a ddyrchefir.
Job 40:2Ai dysgeidiaeth yw ymryson â’r Hollalluog? a argyhoeddo DDUW, atebed i hynny.