Llyfr Job 29:13
Bendith yr hwn oedd ar ddarfod amdano a ddeuai arnaf; a gwnawn i galon y wraig weddw lawenychu.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
12Am fy mod yn gwaredu’r tlawd a fyddai yn gweiddi, a’r amddifad, a’r hwn ni byddai gynorthwywr iddo.
14Gwisgwn gyfiawnder, a hithau a wisgai amdanaf fi: a’m barn fyddai fel mantell a choron.
Cross References
Deuteronomy 16:11A llawenycha ger bron yr Arglwydd dy Dduw, ti, a’th fab, a’th ferch, a’th was, a’th forwyn, a’r Lefiad a fyddo o fewn dy byrth, a’r dïeithr, a’r amddifad, a’r weddw, sydd yn dy fysg, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i drigo o’i enw ef ynddo.
Deuteronomy 26:5A llefara dithau, a dywed ger bron yr Arglwydd dy Dduw, Syriad ar ddarfod am dano oedd fy nhad; ac efe a ddisgynodd i’r Aipht, ac a ymdeithiodd yno âg ychydig bobl, ac a aeth yno yn genedl fawr, gref, ac aml.
Nehemiah 8:10Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch, bwytewch y breision, ac yfwch y melysion, ac anfonwch rannau i’r hwn nid oes ganddo ddim yn barod; canys y mae heddiw yn sanctaidd i’n Harglwydd: am hynny na thristewch; canys llawenydd yr ARGLWYDD yw eich nerth chwi.
Job 31:19Os gwelais neb yn marw o eisiau dillad, a’r anghenog neb wisg:
Psalms 67:4Yr holl ddaear a’th addolant di, ac a ganant i ti; ie, canant i’th enw. Sela.
Proverbs 31:6Rhoddwch ddiod gadarn i’r neb sydd ar ddarfod amdano; a gwin i’r rhai trwm eu calon.