Llyfr Job 35:15
Ac yn awr, am nad yw felly, efe a ymwelodd yn ei ddigofaint; eto ni ŵyr efe mewn dirfawr galedi:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
14Er dywedyd ohonot na weli ef, eto y mae barn ger ei fron ef: disgwyl dithau wrtho.
16Am hynny y lleda Job ei safn yn ofer; ac yr amlha eiriau heb wybodaeth.
Cross References
Numbers 20:12¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, ac wrth Aaron, Am na chredasoch i mi, i’m sancteiddio y’ngŵydd meibion Israel: am hynny ni ddygwch y dyrfa hon i’r tir a roddais iddynt.
Job 9:14Pa faint llai yr atebaf iddo ef, ac y gallaf ddewis fy ngeiriau i ymresymu ag ef?
Job 30:15Dychryniadau a drowyd arnaf: fel gwynt yr erlidiant fy enaid: a’m hiachawdwriaeth a â heibio fel cwmwi.
Psalms 89:32Yna mi a ymwelaf â’u camwedd â gwialen ac â’u hanwiredd â ffrewyllau.
Hosea 11:8Pa fodd y’th roddaf ymaith, Effraim? y’th roddaf i fyny, Israel? pa fodd y’th wnaf fel Adma? ac y’th osodaf megis Seboim? trodd fy nghalon ynof, a’m hedifeirwch a gydgyneuwyd.
Hebrews 12:11Eto ni welir un cerydd dros yr amser presennol yn hyfryd, eithr yn anhyfryd: ond gwedi hynny y mae yn rhoi heddych-ol ffrwyth cyfiawnder i’r rhai sydd wedi eu cynefino ag ef.