Llyfr Job 42:10
Yna yr ARGLWYDD a ddychwelodd gaethiwed Job, pan weddïodd efe dros ei gyfeillion: a’r ARGLWYDD a chwanegodd yr hyn oll a fuasai gan Job yn ddauddyblyg.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 17:4A Moses a lefodd ar yr Arglwydd, gan ddywedyd, Beth a wnaf i’r bobl hyn? ar ben ychydig etto hwy a’m llabyddiant i.
Numbers 12:13A Moses a waeddodd ar yr Ar glwydd, gan ddywedyd, O Dduw, attolwg, meddyginiaetha hi yr awr hon.
Numbers 14:10A’r holl dorf a ddywedasant am en llabyddio hwynt â meini. A gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd ym mhabell y cyfarfod i holl feibion Israel.
Numbers 16:21Ymneillduwch o fysg y gynnulleidfa hon, a mi a’u difaf hwynt ar unwaith.
Deuteronomy 8:18Ond cofia yr Arglwydd dy Dduw: oblegid efe yw yr hwn sydd yn rhoddi nerth i ti i beri cyfoeth, fel y cadarnhao efe ei gyfammod, yr hwn a dyngodd efe wrth dy dadau, fel y mae y dydd hwn.
Deuteronomy 30:3Yna y dychwel yr Arglwydd dy Dduw dy gaethiwed, ac y cymmer drugaredd arnat, ac y try, ac a’th gasgl o fysg yr holl bobloedd lle y’th wasgaro yr Arglwydd dy Dduw di.