Llyfr Job 42:11
Yna ei holl geraint, a’i holl garesau, a phawb o’i gydnabod ef o’r blaen, a ddaethant ato, ac a fwytasant fwyd gydag ef yn ei dŷ, ac a gwynasant iddo, ac a’i cysurasant ef, am yr holl ddrwg a ddygasai yr ARGLWYDD arno ef: a hwy a roddasant iddo bob un ddarn o arian, a phob un dlws o aur.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 24:22A bu, pan ddarfu i’r camelod yfed, gymmeryd o’r gwr glust-dlws aur, yn banner sicl ei bwys; a dwy freichled i’w dwylaw hi, yn ddeg sicl o aur eu pwys.
Genesis 37:35A’i holl feibion, a’i holl ferched, a godasant i’w gysuro ef; ond efe a wrthododd gymmeryd cysur, ac a ddywedodd, Yn ddïau disgynaf yn alarus at fy mab i’r beddrod: a’i dad a wylodd am dano ef.
1 Samuel 10:27Ond meibion Belial a ddywedasant, Pa fodd y gwared hwn ni? A hwy a’i dirmygasant ef, ac ni ddygasant anrheg iddo ef. Eithr ni chymerodd efe arno glywed hyn.
Job 4:4Dy ymadroddion a godasant i fyny yr hwn oedd yn syrthio; a thi a nerthaist y gliniau oedd yn camu.
Job 16:5Ond mi a’ch cryfhawn chwi â’m genau; a symudiad fy ngwefusau a esmwythâi eich gofid.
Job 19:14Fy nghyfnesaf a ballasant, a’r rhai oedd o’m cydnabod a’m hanghofiasant.