Llyfr Joel 2:8
Ni wthiant y naill y llall, cerddant bob un ei lwybr ei hun: ac er eu syrthio ar y cleddyf, nid archollir hwynt.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
2 Chronicles 32:5Ac efe a ymgryfhaodd, ac a adeiladodd yr holl fur drylliedig, ac a’i cyfododd i fyny hyd y tyrau, a mur arall oddi allan, ac a gadarnhaodd Milo yn ninas Dafydd, ac a wnaeth lawer o bicellau ac o darianau.
Nehemiah 4:23Felly myfi, a’m brodyr, a’m gweision, a’r gwylwyr oedd ar fy ôl, ni ddiosgasom ein dillad, ond a ddiosgai pob un i’w golchi.
Job 36:12Ac oni wrandawant, difethir hwy gan y cleddyf; a hwy a drengant heb wybodaeth.
Song of Solomon 4:13Dy blanhigion sydd berllan o bomgranadau, a ffrwyth peraidd, camffir, a nardus;