Yr Efengyl yn ôl Ioan 1:33
A myfi nid adwaenwn ef; eithr yr hwn a’m hanfonodd i fedyddio â dwfr, efe a ddywedodd wrthyf, Ar yr hwn y gwelych yr Ysbryd yn disgyn, ac yn aros arno, hwnnw yw’r un sydd yn bedyddio â’r Ysbryd Glân.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
34A mi a welais, ac a dystiolaethais mai hwn yw Mab Duw.
Read all of Yr Efengyl yn ôl Ioan 1
Cross References
Matthew 3:13¶ Yna y daeth yr Iesu o Galilea i'r Iorddonen at Ioan, i'w fedyddio ganddo.
Luke 3:16loan a atebodd, gan ddywedyd wrthynt oll, Myfi yn ddiau ydwyf yn eich bedyddio chwi a dwfr: ond y mae un cryfach na myfi yn dyfod, yr hwn nid wyf fi deilwng i ddatod carrai ei esgidiau: efe a’ch bedyddia chwi a’r Ysbryd Glân, ac a than.
John 3:5Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Oddieithr geni dyn o ddwfr ac o’r Ysbryd, ni ddichon efe fyned i mewn i deyrnas Dduw.
Acts 1:5Oblegid Ioan yn ddiau a fedyddiodd â dwfr; ond chwi a fedyddir â’r Ysbryd Glân, cyn nemor o ddyddiau.
Acts 10:44A Phedr eto yn llefaru’r geiriau hyn, syrthiodd yr Ysbryd Glân ar bawb a oedd yn clywed y gair.
Acts 19:2Efe a ddywedodd wrthynt, A dderbyniasoch chwi yr Ysbryd Glân er pan gredasoch? A hwy a ddywedasant wrtho, Ni chawsom ni gymaint â chlywed a oes Ysbryd Glân.