Yr Efengyl yn ôl Ioan 10:18
Nid oes neb yn ei dwyn oddi arnaf fi: ond myfi sydd yn ei dodi hi i lawr ohonof fy hun. Y mae gennyf feddiant i’w dodi hi i lawr, ac y mae gennyf feddiant i’w chymryd hi drachefn. Y gorchymyn hwn a dderbyniais i gan fy Nhad.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
17Am hyn y mae’r Tad yn fy ngharu i, am fy mod i yn dodi fy einioes, fel y cymerwyf hi drachefn.
19Yna y bu drachefn ymrafael ymysg yr Iddewon, am yr ymadroddion hyn.
Read all of Yr Efengyl yn ôl Ioan 10
Cross References
Psalms 40:6Dyn yn ddiau sydd yn rhodio mewn cysgod, ac yn ymdrafferthu yn ofer: efe a dyrra olud, ac nis gŵyr pwy a’i casgl.
Matthew 26:53A ydwyt ti yn tybied nas gallaf yr awr hon ddeisyf ar fy Nhad, ac efe a rydd yn y fan i mi fwy na deuddeg lleng o angylion?
John 5:30Ni allaf fi wneuthur dim ohonof fy hunan; fel yr ydwyf yn clywed, yr ydwyf yn barnu; a’m barn i sydd gyfiawn; canys nid ydwyf yn ceisio fy ewyllys fy hunan, ond ewyllys y Tad yr hwn a’m hanfonodd i.
John 10:11Myfi yw’r bugail da. Y bugail da sydd yn rhoddi ei einioes dros y defaid.
John 10:17Am hyn y mae’r Tad yn fy ngharu i, am fy mod i yn dodi fy einioes, fel y cymerwyf hi drachefn.
John 15:10Os cedwch fy ngorchmynion, chwi a arhoswch yn fy nghariad; fel y cedwais i orchmynion fy Nhad, ac yr wyf yn aros yn ei gariad ef.