Yr Efengyl yn ôl Ioan 10:27
Y mae fy nefaid i yn gwrando fy llais i; a mi a’u hadwaen hwynt, a hwy a’m canlynant i:
Beibl (1620)
In The King James Version
My sheep hear my voice, and I know them, and they follow me:
In Context
26Ond chwi nid ydych yn credu: canys nid ydych chwi o’m defaid i, fel y dywedais i chwi.
Read all of Yr Efengyl yn ôl Ioan 10
Cross References
1 Kings 18:21Ac Eleias a ddaeth at yr holl bobl, ac a ddywedodd. Pa hyd yr ydych chwi yn cloffi rhwng dau feddwl? os yr ARGLWYDD sydd DDUW, ewch ar ei ôl ef; ond os Baal, ewch ar ei ôl yntau. A’r bobl nid atebasant iddo air. º
Matthew 16:24¶ Yna y dywedodd yr Iesu wrth ei ddisgyblion, Os myn neb ddyfod ar fy ôl i, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes, a chanlyned fi.
Matthew 25:12Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Nid adwaen chwi.
Mark 10:21A’r Iesu gan edrych arno, a’i hoffodd, ac a ddywedodd wrtho, Un peth sydd ddiffygiol i ti: dos, gwerth yr hyn oll sydd gennyt, a dyro i’r tlodion; a thi a gei drysor yn y nef: a thyred, a chymer i fyny y groes, a dilyn fi.
Luke 13:27Ac efe a ddywed, Yr wyfyn dywedyd i chwi, Nid adwaen chwi o ba le yr ydych": ewch ymaith oddi wrthyf, chwi holl weithredwyr anwiredd.
John 8:12Yna y llefarodd yr Iesu wrthynt drachefn, gan ddywedyd, Goleuni’r byd ydwyf fi: yr hwn a’m dilyno i, ni rodia mewn tywyllwch, eithr efe a gaiff oleuni’r bywyd.