Yr Efengyl yn ôl Ioan 13:10
Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Yr hwn a olchwyd, nid rhaid iddo ond golchi ei draed, eithr y mae yn lân oll: ac yr ydych chwi yn lân, eithr nid pawb oll.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
9Simon Pedr a ddywedodd wrtho, Arglwydd, nid fy nhraed yn unig, eithr fy nwylo a’m pen hefyd.
11Canys efe a wyddai pwy a’i bradychai ef: am hynny y dywedodd, Nid ydych chwi yn lân bawb oll.
Read all of Yr Efengyl yn ôl Ioan 13
Cross References
Leviticus 16:26A golched yr hwn a anfonodd y bwch i fod yn fwch dïangol, ei ddillad, a golched ei gnawd mewn dwfr; ac yna deued i’r gwersyll.
Leviticus 17:15A phob dyn a’r a fwyttao y peth a fu farw o hono ei hun, neu ysglyfaeth, pa un bynnag ai prïodor, ai dïeithrddyn; golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydded aflan hyd yr hwyr: yna glân fydd.
Numbers 19:12Ymlanhâed trwy y dwfr hwnnw y trydydd dydd, a’r seithfed dydd glân fydd: ac os y trydydd dydd nid ymlanhâ efe, yna ni bydd efe lân y seithfed dydd.
Ecclesiastes 7:20Canys nid oes dyn cyfiawn ar y ddaear a wna ddaioni, ac ni phecha.
Jeremiah 50:20Yn y dyddiau hynny, ac yn yr amser hwnnw, medd yr ARGLWYDD, y ceisir anwiredd Israel, ac ni bydd; a phechodau Jwda, ond nis ceir hwynt: canys myfi a faddeuaf i’r rhai a weddillwyf. º
John 15:3Yr awron yr ydych chwi yn lân trwy’r gair a leferais i wrthych