Yr Efengyl yn ôl Ioan 13:26
Yr Iesu a atebodd, Hwnnw yw efe, i’r hwn y rhoddaf fi damaid wedi i mi ei wlychu. Ac wedi iddo wlychu’r tamaid, efe a’i rhoddodd i Jwdas Iscariot, mab Simon.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
25Ac yntau’n pwyso ar ddwy fron yr Iesu, a ddywedodd wrtho, Arglwydd, pwy yw efe?
Read all of Yr Efengyl yn ôl Ioan 13
Cross References
Mark 14:19Hwythau a ddechreuasant dristáu, a dywedyd wrtho bob yn un ac un, Ai myfi? ac arall, Ai myfi?
John 6:70Iesu a’u hatebodd hwynt, Oni ddewisais i chwychwi y deuddeg, ac ohonoch y mae un yn ddiafol?
John 13:30Yntau gan hynny, wedi derbyn y tamaid, a aeth allan yn ebrwydd. Ac yr oedd hi’n nos.