Yr Efengyl yn ôl Ioan 14:10
Onid wyt ti yn credu fy mod i yn y Tad, a’r Tad ynof finnau? Y geiriau yr wyf fi yn eu llefaru wrthych, nid ohonof fy hun yr wyf yn eu llefaru; ond y Tad yr hwn sydd yn aros ynof, efe sydd yn gwneuthur y gweithredoedd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Yr Efengyl yn ôl Ioan 14
Cross References
John 1:1Yn y dechreuad yr oedd y Gair, a’r Gair oedd gyda Duw, a Duw oedd y Gair.
John 5:17Ond yr Iesu a’u hatebodd hwynt, Y mae fy Nhad yn gweithio hyd yn hyn, ac yr ydwyf finnau yn gweithio.
John 6:38Canys myfi a ddisgynnais o’r nef, nid i wneuthur fy ewyllys fy hun, ond ewyllys hwn a’m hanfonodd.
John 7:28Am hynny yr Iesu, wrth athrawiaethu yn y deml, a lefodd ac a ddywedodd, Chwi a’m hadwaenoch i, ac a wyddoch o ba le yr ydwyf fi: ac ni ddeuthum i ohonof fy hun, eithr y mae yn gywir yr hwn a’m hanfonodd i, yr hwn nid adwaenoch chwi.
John 8:38Yr wyf fi yn llefaru yr hyn a welais gyda’m Tad i: a chwithau sydd yn gwneuthur yr hyn a welsoch gyda’ch tad chwithau.
John 10:30Myfi a’r Tad un ydym.