Yr Efengyl yn ôl Ioan 14:12
Yn wir, yn wir, meddaf i. chwi, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, y gweithredoedd yr wyf fi yn eu gwneuthur, yntau hefyd a’u gwna, a mwy na’r rhai hyn a wna efe: oblegid yr wyf fi yn myned at fy Nhad.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
13A pha beth bynnag a ofynnoch yn fy enw i, hynny a wnaf; fel y gogonedder y Tad yn y Mab.
Read all of Yr Efengyl yn ôl Ioan 14
Cross References
Matthew 21:21A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, Os bydd gennych ffydd, ac neb amau, ni wnewch yn unig hyn a wneuthum i i’r ffigysbren, eithr hefyd os dywedwch wrth y mynydd hwn. Coder di i fyny, a bwrier di i’r môr; hynny a fydd.
Mark 16:17A’r arwyddion hyn a ganlynant y rhai a gredant: Yn fy enw i y bwriant allan gythreuliaid; ac â thafodau newyddion y llefarant;
John 7:33Am hynny y dywedodd yr Iesu wrthynt hwy, Yr ydwyf fi ychydig amser eto gyda chwi, ac yr wyf yn myned at yr hwn a’m hanfonodd.
John 14:28Clywsoch fel y dywedais wrthych, yr wyf yn myned ymaith, ac mi a ddeuaf atoch. Pe carech fi, chwi a lawenhaech am i mi ddywedyd, Yr wyf yn myned at y Tad: canys y mae fy Nhad yn fwy na myfi.
Acts 2:4A hwy oll a lanwyd â’r Ysbryd Glân, ac a ddechreuasant lefaru â thafodau eraill, megis y rhoddes yr Ysbryd iddynt ymadrodd.
Acts 2:41Yna y rhai a dderbynias ant ei air ef yn ewyllysgar a fedyddiwyd; a chwanegwyd atynt y dwthwn hwnnw ynghylch tair mil o eneidiau.