Yr Efengyl yn ôl Ioan 14:3
Ac os myfi a af, ac a baratoaf le i chwi, mi a ddeuaf drachefn, ac a’ch cymeraf chwi ataf fy hun; fel lle yr wyf fi, y byddoch chwithau hefyd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
4Ac i ba le yr wyf fi yn myned, chwi a wyddoch, a’r ffordd a wyddoch.
Read all of Yr Efengyl yn ôl Ioan 14
Cross References
John 12:26Os gwasanaetha neb fi, dilyned fi: a lle yr wyf fi, yno y bydd fy ngweinidog hefyd: ac os gwasanaetha neb fi y Tad a’i hanrhydedda ef.
John 14:28Clywsoch fel y dywedais wrthych, yr wyf yn myned ymaith, ac mi a ddeuaf atoch. Pe carech fi, chwi a lawenhaech am i mi ddywedyd, Yr wyf yn myned at y Tad: canys y mae fy Nhad yn fwy na myfi.
Acts 1:11Y rhai hefyd a ddywedasant, Chwi wŷr o Galilea, paham y sefwch yn edrych tua’r nef? yr Iesu hwn, yr hwn a gymerwyd i fyny oddi wrthych i’r nef, a ddaw felly yn yr un modd ag y gwelsoch ef yn myned i’r nef.
Romans 8:17Ac os plant, etifeddion hefyd; sef etifeddion i Dduw, a chyd-eti feddion â Christ: os ydym yn cyd-ddioddef gydag ef, fel y’n cydogonedder hefyd.
Philippians 1:23Canys y mae'n gyfyng arnaf o'r ddeutu, gan fod gennyf chwant i'm datod, ac i fod gyda Christ, canys llawer iawn gwell ydyw.
2 Thessalonians 1:12Fel y gogonedder enw ein Harglwydd Iesu Grist ynoch chwi, a chwithau ynddo yntau, yn ôl gras ein Duw ni, a'r Arglwydd Iesu Grist.